Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 16 Mawrth 2020 |
|
|
|||||||
Amser: |
12.30 |
|
||||||||
|
|
|||||||||
|
|
|||||||||
Cofnodion: AC(5)2020(2) |
|
|||||||||
|
|
|
|
|||||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Rhun ap Iorwerth AC David J Rowlands AC Joyce Watson AC |
|
|||||||
|
|
|
||||||||
|
|
|
|
|||||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Gareth Watts, Pennaeth Llywodraethu a Sicrwydd Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
|
|||||||
|
|
|
||||||||
|
|
|
|
|||||||
Eraill yn bresennol: |
|
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd
|
|
|||||||
|
|
|
||||||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Nid oedd buddiannau i'w datgan.
1.c Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Cytunwyd bod cofnodion 27 Ionawr yn gofnod cywir.
2 Yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – Strategaeth lleihau carbon
Cytunodd y Comisiynwyr ar gyfres o egwyddorion, targedau a chamau gweithredu a fydd yn sail i’r strategaeth lleihau carbon newydd o 2021 i 2030.
Trafododd y Comisiynwyr y camau gweithredu a'r argymhellion, a nodi wrth i'r strategaeth gael ei chwblhau y dylid canolbwyntio mwy ar newid diwylliant ac ymddygiadau. Gwnaethant gytuno hefyd i gydnabod, fel Corff Corfforaethol, bod argyfwng hinsawdd yn bodoli.
3 Capasiti Adnoddau’r Comisiwn – y wybodaeth ddiweddaraf
Roedd y Comisiynwyr wedi gofyn am wybodaeth bellach ynghylch y swyddi a nodwyd i gefnogi’r gwaith o gyflawni eu strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu sydd newydd ei chytuno.
Roedd y Comisiynwyr eisoes wedi cytuno ar yr egwyddor o ddyrannu adnoddau ychwanegol i gefnogi eu blaenoriaeth strategol o ymgysylltu. Buont yn trafod y wybodaeth bellach ac ymrwymodd y Llywydd i ddarparu briff ychwanegol i egluro'r berthynas rhwng y rolau newydd a chyflawni'r strategaeth.
4 Gohebiaeth y Bwrdd Taliadau
Bu'r Comisiynwyr yn trafod llythyrau gan y Bwrdd Taliadau ynghylch ymgynghoriad y Bwrdd ar y Penderfyniad drafft ar gyfer y Chweched Senedd, ac ynghylch ystyriaeth bellach y Bwrdd o'r materion mewn perthynas â chostau a ysgwyddwyd gan Aelodau am redeg eu swyddfeydd, ac eithrio'r rhai y mae’r Penderfyniad yn darparu ar eu cyfer, lle gwnaethant ddau argymhelliad.
Cytunodd y Comisiynwyr i ysgrifennu yn ôl at y Bwrdd gyda'u casgliadau mewn perthynas â'r argymhellion, gan gytuno, drwy fwyafrif, i ddwyn ymlaen cyhoeddi data o ran defnydd i ddechrau'r flwyddyn ariannol nesaf, ac i ddarparu gwybodaeth i gefnogi gwaith y Bwrdd tuag at gynnwys y darpariaethau hyn yn y Penderfyniad. Ar ôl trafod barn y Bwrdd ynghylch cyflwyno 'cap', cytunwyd i gadw’r status quo ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
Cytunwyd hefyd i dynnu sylw at ddau fater sy'n codi o'r ymgynghoriad ar y Penderfyniad, sef esboniad ynghylch y ddwy elfen gyllido a nodwyd i gefnogi ymgysylltu ag etholwyr, a statws yr eiddo a ariennir gan y Comisiwn.
5 Opsiynau o ran lle yn y dyfodol – hyblygrwydd cynyddol y swyddfeydd o fewn Tŷ Hywel
Nododd y Comisiynwyr gynigion i newid rhywfaint ar y lle sydd ar gael yn Nhŷ Hywel i roi mwy o hyblygrwydd i swyddfeydd yr Aelodau.
6 Pontio o ran yr Etholiad – y dull gweithredu
Nododd y Comisiwn wybodaeth a ddarparwyd am gynllunio ar gyfer diddymu’r Pumed Cynulliad a’r cyfnod pontio dros gyfnod etholiad 2021.
Cytunodd y Comisiynwyr i ystyried materion penodol i wneud penderfyniad yn eu cylch mewn cyfarfodydd yn ddiweddarach yn 2020.
7 Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Craffu ar Gyfrifon 2018-19
Trafododd y Comisiynwyr gais gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am wybodaeth bellach mewn perthynas â'r ymateb i ddau o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor. Nododd y Comisiynwyr y llythyr gan y Pwyllgor a chytunodd ar ymateb.
8 Coronafeirws
Ar ôl cael eu briffio, bu'r Comisiynwyr yn trafod y camau a gymerwyd eisoes, yr hyn sy'n cael ei wneud, a'r penderfyniadau y mae angen eu gwneud ar hyn o bryd wrth ymateb i’r coronafeirws, Covid-19. Gwnaethant gytuno ar gamau gweithredu mewn perthynas â throthwyon presennol a thrafod trefniadau ymarferol a pharhad busnes.
Penderfynodd y Comisiwn y bydd gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd yn dod i ben o ddydd Mawrth 17 Mawrth, ac na fyddant yn ailddechrau cyn 26 Ebrill. Bydd adeiladau'n cau i'r cyhoedd ac eithrio'r rhai sy'n cymryd rhan neu'n arsylwi trafodion ffurfiol y Cynulliad. Penderfynodd y Comisiwn hefyd ohirio wythnos fusnes y Senedd yn y gogledd ddwyrain yn ddiweddarach yr haf hwn.
Trafododd y Comisiynwyr hefyd yr angen i gefnogi staff yr effeithir arnynt yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan ledaeniad COVID-19 a'r angen i barhau i ddarparu arweiniad perthnasol i Aelodau'r Cynulliad mewn perthynas â'u staff a'u swyddfeydd eu hunain.
Cadarnhaodd y Comisiynwyr eu cefnogaeth i’r dull arfaethedig a chytunwyd ar y prosesau penderfynu, gan gydnabod y byddai angen gwneud penderfyniadau pellach.
9 Papurau i’w nodi:
9.a Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o benderfyniadau recriwtio a roddir ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.
9.b Cofnodion Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ACARAC) – y cyfarfod fis Ionawr
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarparwyd yn dilyn cyfarfod ACARAC ym mis Ionawr.
10 Unrhyw Fusnes Arall
Hysbyswyd y Comisiynwyr fod y contract glanhau wedi'i ddyfarnu yn dilyn ymarfer caffael.